2 Samuel 8:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Gosododd garsiynau yn Edom, a daeth holl Edom yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi.

15. Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl.

16. Joab fab Serfia oedd dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur.

17. Sadoc fab Ahitub, ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Seraia yn ysgrifennydd.

2 Samuel 8