2 Samuel 22:48-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

48. y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd danaf,

49. sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.

50. Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,a chanaf fawl i'th enw.

51. Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaethac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog,i Ddafydd ac i'w had am byth.”

2 Samuel 22