2 Samuel 22:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. “Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?A phwy sydd graig ond ein Duw ni?

33. Duw yw fy nghaer gadarn,sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.

34. Gwna fy nhraed fel rhai ewig,a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.

35. Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,i'm breichiau dynnu bwa pres.

36. Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.

2 Samuel 22