2 Samuel 2:30-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. A phan ddaeth Joab yn ei ôl o ddilyn Abner, fe gasglodd y bobl ynghyd, ac yr oedd pedwar ar bymtheg o ddilynwyr Dafydd yn eisiau, yn ogystal ag Asahel.

31. Yr oedd dilynwyr Dafydd wedi lladd o blith Benjamin dri chant a thrigain o filwyr Abner. Cymerwyd Asahel a'i gladdu ym medd ei dad ym Methlehem.

32. Yna cerddodd Joab a'i ddynion drwy'r nos, a chyrraedd Hebron fel yr oedd yn dyddio.

2 Samuel 2