2 Samuel 15:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi hyn darparodd Absalom iddo'i hun gerbyd a meirch, a hanner cant o ddynion i redeg o'i flaen.

2. Codai'n fore, a sefyll ar ochr y ffordd at borth y ddinas, a phan fyddai unrhyw un yn dod ag achos at y brenin am ddedfryd, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn holi, “O ba dref yr wyt ti?” A byddai hwnnw'n ateb, “O un o lwythau Israel y mae dy was.”

3. Yna byddai Absalom yn dweud, “Edrych, y mae dy achos yn un da a chryf, ond ni chei wrandawiad gan y brenin.”

2 Samuel 15