2 Ioan 1:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn.

9. Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo.

10. Os daw rhywun atoch heb ddod â'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch â'i dderbyn i'ch tŷ na'i gyfarch ef,

11. oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus.

2 Ioan 1