2 Ioan 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr henuriad at yr arglwyddes etholedig a'i phlant. Yr wyf fi, ac nid myfi yn unig, ond pawb sydd wedi dod i wybod y gwirionedd, yn eich caru yn y gwirionedd,

2. er mwyn y gwirionedd sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni am byth.

3. Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.

2 Ioan 1