2 Cronicl 7:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Wedi i Solomon orffen tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a llwyddo i wneud iddynt y cwbl a fwriadai,

12. ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo liw nos a dweud wrtho, “Clywais dy weddi, ac yr wyf wedi dewis i mi y lle hwn fel man i aberthu.

13. Os byddaf wedi cau'r nefoedd fel na fydd glaw, neu orchymyn i'r locustiaid ddifa'r ddaear, neu anfon pla ar fy mhobl,

14. ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad.

15. Bydd fy llygaid yn sylwi a'm clustiau yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn.

16. Yr wyf wedi dewis a sancteiddio'r tŷ hwn, i'm henw fod yno am byth; yno hefyd y bydd fy llygaid a'm calon hyd byth.

17. Os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,

18. yna sicrhaf dy orsedd frenhinol fel yr addewais i'th dad Dafydd gan ddweud, ‘Ni fyddi heb ŵr i lywodraethu Israel.’

2 Cronicl 7