2 Cronicl 5:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi i Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhŷ'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r holl offer, a'u gosod yn nhrysordai tŷ Dduw.

2. Yna cynullodd Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel i Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion.

3. Daeth holl wŷr Israel ynghyd at y brenin ar yr ŵyl yn y seithfed mis.

2 Cronicl 5