9. A rhoddodd Cononeia a'i frodyr Semaia a Nethaneel, a Hasabeia, Jehiel a Josabad, swyddogion y Lefiaid, bum mil o ddefaid a phum cant o ychen ar gyfer y Pasg.
10. Felly paratowyd y gwasanaeth, a safodd yr offeiriaid yn eu lle a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.
11. Lladdasant oen y Pasg, a lluchiodd yr offeiriaid beth o'r gwaed ar yr allor tra oedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.
12. Yna aethant â'r poethoffrymau ymaith i'w dosbarthu yn ôl rhaniadau teuluoedd y bobl, er mwyn iddynt offrymu i'r ARGLWYDD fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses; felly hefyd y gwnaethant â'r ychen.
13. Rhostiwyd oen y Pasg ar y tân, yn ôl y ddefod, a berwi'r pethau cysegredig mewn crochanau, peiriau a phedyll, a'u rhannu ar frys i'r holl bobl.