2 Cronicl 35:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Cadwodd Joseia Basg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; lladdasant oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

2. Gosododd yr offeiriaid ar ddyletswydd, a'u hannog i wasanaethu yn nhŷ yr ARGLWYDD.

3. Dywedodd wrth y Lefiaid oedd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD ac yn dysgu holl Israel, “Rhowch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon fab Dafydd, brenin Israel; nid ydych i'w chario ar eich ysgwyddau. Yn awr, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel.

2 Cronicl 35