2 Cronicl 21:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Ac yng nghwrs amser, wedi i ddwy flynedd ddod i ben, disgynnodd ei goluddion allan o achos y clefyd, a bu farw mewn poenau enbyd. Ni wnaeth y bobl dân er anrhydedd iddo, fel y gwnaethant i'w ragflaenwyr.

20. Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. Bu farw heb neb yn galaru amdano, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.

2 Cronicl 21