2 Cronicl 20:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi hyn, dechreuodd y Moabiaid a'r Ammoniaid, gyda rhai o'r Meuniaid ryfela yn erbyn Jehosaffat.

2. Daeth rhywrai at Jehosaffat a dweud wrtho, “Y mae mintai fawr yn dod yn dy erbyn o Edom, o'r ochr draw i'r môr, ac y mae hi eisoes yn Hasason-tamar” (hynny yw, En-gedi).

3. Yn ei ddychryn penderfynodd Jehosaffat geisio'r ARGLWYDD, a chyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.

4. Yna ymgasglodd pobl Jwda i ofyn am gymorth gan yr ARGLWYDD; daethant o bob un o'u dinasoedd i'w geisio ef.

5. Yn y cynulliad hwn o bobl Jwda a Jerwsalem yn nhŷ yr ARGLWYDD, fe safodd Jehosaffat o flaen y cyntedd newydd,

6. a dweud, “O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti sy'n Dduw yn y nefoedd? Ti sy'n llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel na ddichon neb dy wrthsefyll.

7. Onid ti, ein Duw, a yrraist drigolion y wlad hon allan o flaen dy bobl Israel, a'i rhoi hi am byth i had Abraham, dy gyfaill?

8. Y maent hwy wedi byw ynddi ac wedi adeiladu cysegr i'th enw di, a dweud,

9. ‘Os daw unrhyw niwed i ni trwy gleddyf, llifeiriant, haint neu newyn, yna fe safwn o'th flaen di ac o flaen y tŷ hwn, oherwydd y mae dy enw arno. Gwaeddwn arnat yn ein trybini, ac fe wrandewi di arnom a'n gwaredu.’

10. Yn awr, dyma'r Ammoniaid, y Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, pobl na adewaist i Israel ymosod arnynt wrth ddod allan o'r Aifft, pobl y troes Israel i ffwrdd oddi wrthynt a pheidio â'u difetha;

11. gwêl sut y mae'r rhain yn talu'n ôl i ni trwy ddod i'n gyrru allan o'th etifeddiaeth, a roddaist i ni.

12. O ein Duw, oni wnei di gyhoeddi barn arnynt? Oherwydd nid ydym ni'n ddigon cryf i wrthsefyll y fintai fawr hon sy'n dod yn ein herbyn. Ni wyddom ni beth i'w wneud, ond dibynnwn arnat ti.”

2 Cronicl 20