2 Cronicl 17:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat.

11. Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid â diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod.

12. Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd stôr yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda.

13. Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem,

2 Cronicl 17