2 Cronicl 11:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Arhosodd Rehoboam yn Jerwsalem, ac adeiladu dinasoedd caerog yn Jwda.

6. Adeiladodd Bethlehem, Etam, Tecoa,

7. Beth-sur, Socho, Adulam,

8. Gath, Maresa, Siff,

9. Adoraim, Lachis, Aseca,

10. Sora, Ajalon a Hebron, sef dinasoedd caerog Jwda a Benjamin.

11. Cryfhaodd y caerau a rhoi rheolwyr ynddynt, a hefyd stôr o fwyd, olew a gwin.

12. Gwnaeth bob dinas yn amddiffynfa gadarn iawn ac yn lle i gadw tarianau a gwaywffyn. Felly daliodd ei afael ar Jwda a Benjamin.

2 Cronicl 11