2 Corinthiaid 2:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Digon i'r fath un y gosb hon a osodwyd arno gan y mwyafrif,

7. a'ch gwaith chwi bellach yw maddau iddo a'i ddiddanu, rhag iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch.

8. Am hynny yr wyf yn eich cymell i adfer eich cariad tuag ato.

9. Oherwydd f'amcan wrth ysgrifennu oedd eich gosod dan brawf, i weld a ydych yn ufudd ym mhob peth.

2 Corinthiaid 2