2 Brenhinoedd 9:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Taro dŷ Ahab, dy feistr, fel y caf ddial ar Jesebel am waed fy ngweision y proffwydi, a holl weision yr ARGLWYDD.

8. Difethir holl dŷ Ahab, a distrywiaf bob gwryw sydd gan Ahab yn Israel, caeth neu rydd.

9. A gwnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia.

10. Ac am Jesebel, bydd y cŵn yn ei bwyta yn rhandir Jesreel, heb neb i'w chladdu.” Yna fe agorodd y drws a ffoi.

11. Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, “A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?” Atebodd yntau, “Gwyddoch am y dyn a'i siarad.”

12. “Paid â'th gelwydd,” meddent, “da thi, dywed wrthym.” Ac atebodd, “Dyma'r hyn a ddywedodd wrthyf: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.’ ”

13. Yna cipiodd pob un ddilledyn a'i roi dano ar ben y grisiau, a chwythu utgorn a dweud, “Jehu sydd frenin!”

14. A gwnaeth Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi gynllwyn yn erbyn Joram.Yr oedd Joram a holl Israel ar wyliadwriaeth yn Ramoth-gilead rhag Hasael brenin Syria;

15. ond yr oedd Joram wedi dychwelyd adref i Jesreel i wella o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid wrth ymladd â Hasael brenin Syria. A dywedodd Jehu, “Os dyma'ch teimlad, peidiwch â gadael i neb ddianc o'r ddinas i yngan gair yn Jesreel.”

16. Aeth Jehu yn ei gerbyd am Jesreel, gan fod Joram yn orweiddiog yno. Ac yr oedd Ahaseia brenin Jwda wedi dod i edrych am Joram.

2 Brenhinoedd 9