2 Brenhinoedd 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig yr adfywiodd ei mab, “Muda oddi yma, ti a'th deulu, a dos i fyw lle medri, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi newyn, a bydd yn y wlad am saith mlynedd.”

2. Cychwynnodd y wraig yn ôl gair gŵr Duw, ac aeth hi a'i theulu, a byw am saith mlynedd yn Philistia.

3. Ymhen y saith mlynedd, dychwelodd y wraig o Philistia a mynd at y brenin i erfyn am ei thŷ a'i thir.

4. Yr oedd y brenin ar y pryd yn ymddiddan â Gehasi, gwas gŵr Duw, ac yn dweud, “Dywed wrthyf hanes yr holl wrhydri a wnaeth Eliseus.”

2 Brenhinoedd 8