2 Brenhinoedd 7:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Wedi hynny aeth y bobl allan ac ysbeilio gwersyll y Syriaid, a chaed pwn o flawd am sicl a dau bwn o haidd am sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

17. Yr oedd y brenin wedi penodi'r swyddog y pwysai ar ei fraich i arolygu'r porth; ond mathrodd y bobl ef yn y porth, a bu farw, fel yr oedd gŵr Duw wedi dweud pan aeth y brenin ato.

18. Digwyddodd hefyd yn ôl fel y dywedodd gŵr Duw wrth y brenin, “Bydd dau bwn o haidd am sicl, a phwn o beilliaid am sicl yr adeg yma yfory ym mhorth Samaria.”

2 Brenhinoedd 7