11. Yna dywedodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel y gallwn ymofyn â'r ARGLWYDD drwyddo?” Atebodd un o weision brenin Israel, “Y mae Eliseus fab Saffat, a fu'n tywallt dŵr dros ddwylo Elias, yma.”
12. Dywedodd Jehosaffat, “Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef.” Ac aeth brenin Israel a Jehosaffat a brenin Edom draw ato.
13. Dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Beth sydd a wnelom ni â'n gilydd? Dos at broffwydi dy dad a'th fam.” Dywedodd brenin Israel wrtho, “Nage; yr ARGLWYDD sydd wedi galw'r tri brenin hyn i'w rhoi yn llaw Moab.”
14. Atebodd Eliseus, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, oni bai fy mod yn parchu Jehosaffat brenin Jwda, ni fyddwn yn talu sylw iti nac yn edrych arnat.