2 Brenhinoedd 25:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Yna cododd yr holl bobl, bach a mawr, a swyddogion y lluoedd, a ffoi i'r Aifft rhag ofn y Caldeaid.

27. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn y daeth i'r orsedd, ffafr รข Jehoiachin brenin Jwda, a'i ryddhau o garchar.

28. Bu'n garedig wrtho a rhoi iddo sedd uwch na brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon.

29. Newidiodd Jehoiachin o'i ddillad carchar, a chafodd fwyta'i fara'n feunyddiol gydag ef weddill ei oes,

30. a chael dogn beunyddiol gan y brenin weddill ei ddyddiau.

2 Brenhinoedd 25