2 Brenhinoedd 24:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam.

19. A gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth Jehoiacim.

20. Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD cafodd Jerwsalem a Jwda eu bwrw allan o'i ŵydd.

2 Brenhinoedd 24