2 Brenhinoedd 22:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Ond nid ydynt i roi cyfrif o'r arian a roddir i'w gofal, am eu bod yn gweithredu'n onest.”

8. Dywedodd yr archoffeiriad Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, “Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD.” A rhoddodd y llyfr i Saffan i'w ddarllen.

9. Yna aeth Saffan yr ysgrifennydd yn ôl at y brenin, a dwyn adroddiad iddo, a dweud, “Y mae dy weision wedi cyfrif yr arian oedd yn y deml, ac wedi eu trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am dŷ'r ARGLWYDD.”

10. Ac ychwanegodd, “Fe roddodd yr offeiriad Hilceia lyfr imi.” Yna darllenodd Saffan ef i'r brenin.

2 Brenhinoedd 22