2 Brenhinoedd 22:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. A dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori â'r ARGLWYDD: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglŷn â'r geiriau a glywaist:

19. Am i'th galon dyneru, ac iti ymostwng o flaen yr ARGLWYDD pan glywaist fi'n dweud am y lle hwn a'i drigolion, y byddai'n ddifrod ac yn felltith, ac am iti rwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.

20. Ac am hynny casglaf di at dy hynafiaid, a dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni wêl dy lygaid y drwg a ddygaf ar y lle hwn.’ ” Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.

2 Brenhinoedd 22