2 Brenhinoedd 17:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Yr oedd yr Israeliaid yn llechwraidd yn gwneud pethau anweddus yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac yn adeiladu uchelfeydd ym mhob un o'u trefi, o dŵr gwylwyr hyd ddinas gaerog,

10. a chodi hefyd golofnau a physt cysegredig ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas.

11. Yno yn yr holl uchelfeydd yr oeddent yn arogldarthu yr un fath â'r cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o'u blaen, ac yn cyflawni gweithredoedd drygionus i ddigio'r ARGLWYDD,

12. ac yn addoli eilunod, er i'r ARGLWYDD wahardd hyn iddynt.

2 Brenhinoedd 17