2 Brenhinoedd 17:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ond darganfu brenin Asyria fod Hosea'n ei dwyllo, a'i fod wedi anfon cenhadau at So brenin yr Aifft, ac atal y deyrnged yr arferai ei thalu'n flynyddol i frenin Asyria; felly daliodd ef a'i garcharu.

5. Yna ymosododd ar y wlad i gyd, ac aeth i fyny yn erbyn Samaria a gwarchae arni am dair blynedd.

6. Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, gorchfygwyd Samaria gan frenin Asyria, a chaethgludodd ef yr Israeliaid i Asyria a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

7. Digwyddodd hyn am i'r Israeliaid bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, a'u dygodd i fyny o wlad yr Aifft, o law Pharo brenin yr Aifft.

8. Aethant i addoli duwiau eraill a dilyn arferion y cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid; hynny hefyd a wnaeth brenhinoedd Israel.

9. Yr oedd yr Israeliaid yn llechwraidd yn gwneud pethau anweddus yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac yn adeiladu uchelfeydd ym mhob un o'u trefi, o dŵr gwylwyr hyd ddinas gaerog,

10. a chodi hefyd golofnau a physt cysegredig ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas.

11. Yno yn yr holl uchelfeydd yr oeddent yn arogldarthu yr un fath â'r cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o'u blaen, ac yn cyflawni gweithredoedd drygionus i ddigio'r ARGLWYDD,

2 Brenhinoedd 17