2 Brenhinoedd 15:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda, daeth Menahem fab Gadi yn frenin ar Israel yn Samaria am ddeng mlynedd.

18. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

19. Yn ei ddyddiau ef daeth Pul brenin Asyria yn erbyn y wlad, a rhoddodd Menahem i Pul fil o dalentau arian i ennill ei gefnogaeth a sicrhau'r frenhiniaeth iddo'i hun.

2 Brenhinoedd 15