2 Brenhinoedd 14:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Jeroboam yn frenin yn ei le.

17. Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd wedi i Jehoas fab Jehoahas, brenin Israel, farw.

18. Am weddill hanes Amaseia, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

19. Pan gynlluniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem, ffodd i Lachis, ond anfonwyd ar ei ôl i Lachis a'i ladd yno,

20. a chludwyd ef ar feirch i Jerwsalem, a'i gladdu gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.

2 Brenhinoedd 14