11. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ni throdd oddi wrth holl bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu, ond parhaodd ynddynt.
12. Am weddill hanes Joas a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth frwydro yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
13. Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; yna daeth Jeroboam i'w orsedd.
14. Pan oedd Eliseus yn glaf o'i glefyd olaf, daeth Joas brenin Israel i ymweld ag ef, ac wylo yn ei ŵydd a dweud, “Fy nhad, fy nhad, cerbydau a marchogion Israel.”
15. Dywedodd Eliseus wrtho, “Cymer fwa a saethau,” a gwnaeth yntau hynny.
16. Yna meddai wrth frenin Israel, “Cydia yn y bwa”; gwnaeth yntau, a gosododd Eliseus ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.
17. Yna dywedodd, “Agor y ffenestr tua'r dwyrain.” Agorodd hi, a dywedodd Eliseus, “Saetha.” A phan oedd yn saethu, dywedodd, “Saeth buddugoliaeth i'r ARGLWYDD, saeth buddugoliaeth dros Syria! Byddi'n taro'r Syriaid yn Affec ac yn eu difa.”