1. Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi'r holl linach frenhinol.
2. Ond cymerwyd Joas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y Brenin Joram a chwaer Ahaseia, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd. Rhoed ef a'i famaeth mewn ystafell wely, a'i guddio rhag Athaleia, ac ni laddwyd ef.
3. A bu ynghudd gyda hi yn nhÅ·'r ARGLWYDD am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.