2 Brenhinoedd 10:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Aeth yntau allan yn y bore a sefyll yno a dweud wrth yr holl bobl, “Yr ydych chwi'n bobl deg. Edrychwch, gwneuthum i gynllwyn yn erbyn f'arglwydd a'i ladd, ond pwy a laddodd y rhain i gyd?

10. Gwelwch felly nad yw'r un gair o'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi methu; y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yr hyn a addawodd drwy ei was Elias.”

11. Lladdodd Jehu bawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, a'i holl uchelwyr a'i gyfeillion a'i offeiriaid, heb adael neb.

12. Yna ymadawodd Jehu i fynd i Samaria; ac yn ymyl Beth-eced y Bugeiliaid

13. cyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda, a gofyn, “Pwy ydych chwi?” Atebasant, “Brodyr Ahaseia, ac yr ydym yn mynd i gyfarch plant y brenin a phlant y fam frenhines.”

2 Brenhinoedd 10