1 Thesaloniaid 3:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. A chwithau, bydded i'r Arglwydd beri ichwi gynyddu, a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb, fel yr ydym ni tuag atoch chwi,

13. i gadarnhau eich calonnau, fel y byddwch yn ddi-fai mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint! Amen.

1 Thesaloniaid 3