1 Samuel 4:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Pan ddaeth, dyna lle'r oedd Eli yn eistedd ar sedd gerllaw'r ffordd yn disgwyl, am ei fod yn bryderus iawn am arch Duw. Pan ddaeth y dyn a chyhoeddi'r newydd yn y ddinas, bu llefain drwy'r ddinas.

14. A phan glywodd Eli sŵn y llefain, holodd, “Beth yw'r cynnwrf yma?” Yna brysiodd y dyn, a dod ac adrodd yr hanes wrth Eli.

15. Yr oedd Eli'n naw deg ac wyth oed, a'i lygaid wedi pylu fel na fedrai weld.

16. A dywedodd y dyn wrth Eli, “Myfi sydd wedi dod o'r frwydr; heddiw y ffois o'r gad.” Yna gofynnodd iddo, “Beth yw'r newydd, fy machgen?”

17. Atebodd y cennad, “Ffodd Israel o flaen y Philistiaid, a bu lladdfa fawr ymysg y bobl hefyd; y mae dy ddau fab, Hoffni a Phinees wedi marw, ac arch Duw wedi ei chymryd.”

18. Pan soniodd am arch Duw, syrthiodd Eli yn wysg ei gefn oddi ar y sedd gerllaw'r porth, a thorri ei wddf a marw, oherwydd yr oedd yn hen ac yn ddyn trwm. Yr oedd wedi barnu Israel am ddeugain mlynedd.

19. Yr oedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phinees, yn feichiog ac yn agos i esgor. Pan glywodd hi'r newydd fod arch Duw wedi ei chymryd a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw, crymodd ac esgorodd, oherwydd daeth ei gwewyr arni.

20. Ac fel yr oedd hi'n marw, dywedodd y merched oedd o'i chwmpas, “Paid ag ofni, rwyt ti wedi esgor ar fab.” Nid atebodd hi na chymryd sylw,

21. ond enwi'r bachgen, Ichabod, a dweud, “Ciliodd gogoniant o Israel,” oherwydd colli arch Duw a'i thad-yng-nghyfraith a'i gŵr.

22. Dyna a ddywedodd, “Ciliodd gogoniant o Israel, oherwydd cymryd arch Duw.”

1 Samuel 4