1 Samuel 28:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Yna gofynnodd hi, “Pwy a ddygaf i fyny iti?” Dywedodd yntau, “Dwg Samuel i fyny imi.”

12. Pan welodd y ddynes Samuel, gwaeddodd â llais uchel, a dweud wrth Saul, “Pam yr wyt wedi fy nhwyllo? Saul wyt ti.”

13. Dywedodd y brenin wrthi, “Paid ag ofni; beth wyt yn ei weld?” Ac meddai'r ddynes wrth Saul, “Rwy'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.”

1 Samuel 28