1 Samuel 22:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Dywedodd Dafydd wrth Abiathar, “Mi wyddwn i y diwrnod hwnnw pan oedd Doeg yr Edomiad yno, y byddai'n sicr o ddweud wrth Saul. Myfi sy'n gyfrifol am farwolaeth dy deulu cyfan.

23. Aros gyda mi, paid ag ofni; oherwydd yr un sy'n ceisio d'einioes di sy'n ceisio f'einioes innau. Byddi'n ddiogel gyda mi.”

1 Samuel 22