1 Samuel 2:35-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. Sefydlaf i mi fy hun offeiriad ffyddlon a weithreda yn ôl fy nghalon a'm meddwl; adeiladaf iddo dŷ sicr a bydd yn gwasanaethu gerbron f'eneiniog yn wastadol.

36. A bydd pob un a adewir yn dy dŷ di yn dod i foesymgrymu iddo am ddarn arian neu dorth o fara a dweud, ‘Rho imi unrhyw swydd yn yr offeiriadaeth, imi gael tamaid o fara’.”

1 Samuel 2