1 Samuel 19:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd Saul wrth ei fab Jonathan a'i holl weision am ladd Dafydd.

2. Ond yr oedd Jonathan fab Saul wedi mynd yn hoff iawn o Ddafydd, a dywedodd wrtho, “Y mae fy nhad Saul yn ceisio dy ladd di; bydd di'n ofalus ohonot dy hun bore yfory, ac ymguddia ac aros o'r golwg.

3. Mi af finnau a sefyll yn ymyl fy nhad, allan yn ymyl y lle y byddi di, ac mi soniaf amdanat wrth fy nhad; ac os gwelaf unrhyw beth, mi ddywedaf wrthyt.”

1 Samuel 19