49. rhoddodd ei law yn y bag a chymryd carreg allan a'i hyrddio, a tharo'r Philistiad yn ei dalcen nes bod y garreg yn suddo i'w dalcen; syrthiodd yntau ar ei wyneb i'r llawr.
50. Felly trechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl a charreg, a'i daro'n farw, heb fod ganddo gleddyf.
51. Yna rhedodd Dafydd a sefyll uwchben y Philistiad; cydiodd yn ei gleddyf ef a'i dynnu o'r wain, a rhoi'r ergyd olaf iddo a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr yn farw, ffoesant;
52. a chododd gwŷr Israel a Jwda a bloeddio rhyfelgri ac ymlid y Philistiaid cyn belled â Gath a phyrth Ecron. A chwympodd celanedd y Philistiaid ar hyd y ffordd o Saaraim i Gath ac Ecron.
53. Yna dychwelodd yr Israeliaid o ymlid y Philistiaid, ac ysbeilio eu gwersyll.
54. Cymerodd Dafydd ben y Philistiad a'i ddwyn i Jerwsalem, ond gosododd ei arfau yn ei babell ei hun.