36. Mae dy was wedi lladd llewod ac eirth, a dim ond fel un ohonynt hwy y bydd y Philistiad dienwaededig hwn, am iddo herio byddin y Duw byw.”
37. Ac ychwanegodd Dafydd, “Bydd yr ARGLWYDD a'm gwaredodd o afael y llew a'r arth yn sicr o'm hachub o afael y Philistiad hwn hefyd.” Dywedodd Saul, “Dos, a bydded yr ARGLWYDD gyda thi.”
38. Rhoddodd Saul ei wisg ei hun am Ddafydd: rhoi helm bres ar ei ben, ei wisgo yn ei lurig, a gwregysu Dafydd â'i gleddyf dros ei wisg.
39. Ond methodd gerdded, am nad oedd wedi arfer â hwy. Dywedodd Dafydd wrth Saul, “Ni fedraf gerdded yn y rhain, oherwydd nid wyf wedi arfer â hwy.” A diosgodd hwy oddi amdano.