1 Samuel 17:33-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Ni fedri di fynd ac ymladd â'r Philistiad hwn, oherwydd llanc wyt ti ac yntau'n rhyfelwr o'i ieuenctid.”

34. Ond dywedodd Dafydd wrth Saul, “Bugail ar ddefaid ei dad yw dy was;

35. pan fydd llew neu arth yn dod ac yn cipio dafad o'r ddiadell, byddaf yn mynd ar ei ôl, yn ei daro, ac yn achub y ddafad o'i safn. Pan fydd yn codi yn fy erbyn i, byddaf yn cydio yn ei farf, yn ei drywanu, ac yn ei ladd.

1 Samuel 17