1 Samuel 17:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Safai'r Philistiaid ar dir uchel o un tu, ac Israel ar dir uchel o'r tu arall, gyda dyffryn rhyngddynt.

4. O wersyll y Philistiaid daeth allan heriwr o'r enw Goliath, dyn o Gath, ac yn chwe chufydd a rhychwant o daldra.

5. Yr oedd ganddo helm bres am ei ben, ac yr oedd wedi ei wisgo mewn llurig emog o bres, yn pwyso pum mil o siclau.

6. Yr oedd coesarnau pres am ei goesau a chrymgledd pres rhwng ei ysgwyddau.

1 Samuel 17