1 Samuel 16:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Yna galwodd Jesse am Abinadab a'i ddwyn gerbron, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.”

9. Yna parodd Jesse i Samma ddod, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.”

10. A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, “Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn.”

11. Yna gofynnodd Samuel i Jesse, “Ai dyma'r bechgyn i gyd?” Atebodd yntau, “Y mae'r ieuengaf ar ôl, yn bugeilio'r defaid.” Ac meddai Samuel wrth Jesse, “Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod.”

12. Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw.”

13. Cymerodd Samuel y corn olew, a'i eneinio yng nghanol ei frodyr; a disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw ymlaen. Yna aeth Samuel yn ôl i Rama.

14. Ciliodd ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrth Saul, a dechreuodd ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD aflonyddu arno.

15. Dywedodd gweision Saul wrtho, “Dyma sydd o'i le: y mae un o'r ysbrydion drwg yn aflonyddu arnat.

16. O na fyddai'n meistr yn gorchymyn i'w weision yma chwilio am ŵr sy'n medru canu telyn! Caiff yntau ei chanu pan fydd yr ysbryd drwg yn ymosod arnat, a byddi dithau'n well.”

17. Dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddyn sy'n delynor da, a dewch ag ef ataf.”

18. Atebodd un o'r gweision, “Mi welais fab i Jesse o Fethlehem, sy'n medru canu telyn, ac y mae'n ŵr dewr ac yn rhyfelwr; y mae'n siarad yn ddeallus ac yn un golygus hefyd, ac y mae'r ARGLWYDD gydag ef.”

1 Samuel 16