1 Samuel 15:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Dywedodd Samuel wrth Saul, “Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr.” Meddai yntau wrtho, “Dywed.”

17. A dywedodd Samuel, “Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel?

18. Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, ‘Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela â hwy nes eu difa.’

19. Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?”

1 Samuel 15