1 Samuel 14:40-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

40. Yna dywedodd wrth yr holl Israeliaid, “Safwch chwi ar un ochr, a minnau a'm mab Jonathan ar yr ochr arall.” A dywedodd y bobl wrth Saul, “Gwna fel y gweli'n dda.”

41. Dywedodd Saul wrth yr ARGLWYDD, Duw Israel, “Pam nad atebaist dy was heddiw? Os yw'r camwedd hwn ynof fi neu yn fy mab Jonathan, O ARGLWYDD Dduw Israel, rho Wrim; ond os yw'r camwedd hwn yn dy bobl Israel, rho Twmim.” Daliwyd Jonathan a Saul, ac aeth Israel yn rhydd.

42. Dywedodd Saul, “Bwriwch goelbren rhyngof fi a'm mab Jonathan.” A daliwyd Jonathan.

43. Yna dywedodd Saul wrth Jonathan, “Dywed wrthyf beth a wnaethost.” Eglurodd Jonathan iddo, a dweud, “Dim ond profi mymryn o fêl ar flaen y ffon oedd yn fy llaw. Dyma fi, rwy'n barod i farw.”

44. Atebodd Saul, “Fel hyn y gwna Duw i mi, a rhagor, os na fydd Jonathan farw.”

45. Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Saul, “A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i'r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn.” Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw.

46. Dychwelodd Saul o ymlid y Philistiaid, ac aeth y Philistiaid adref.

1 Samuel 14