1 Ioan 4:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.

13. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn aros ynddo ef, ac ef ynom ninnau: am iddo ef roi inni o'i Ysbryd.

14. Yr ydym ni wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn Waredwr y byd.

15. Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw.

16. Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom.Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau.

17. Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.

18. Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn รข chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.

19. Yr ydym ni'n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.

1 Ioan 4