1 Cronicl 5:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Tua'r dwyrain yr oedd eu tir yn cyrraedd at ymylon yr anialwch sy'n ymestyn o afon Ewffrates, oherwydd yr oedd eu hanifeiliaid wedi cynyddu yng ngwlad Gilead.

10. Yn ystod teyrnasiad Saul, aethant i ryfel yn erbyn yr Hagariaid a'u trechu, a byw yn eu pebyll trwy holl ddwyrain Gilead.

11. Dyma feibion Gad oedd yn byw nesaf atynt yng ngwlad Basan hyd at Salcha: Joel y pennaeth,

12. Saffam yr ail, Jaanai, Saffat.

13. Eu brodyr hwy o dŷ eu hynafiaid: Michael, Mesulam, Seba, Jorai, Jacan, Sïa, Heber, saith.

1 Cronicl 5