19. Pan fu farw Asuba cymerodd Caleb Effrata yn wraig iddo; hi oedd mam Hur.
20. Hur oedd tad Uri, ac Uri oedd tad Besalel.
21. Wedi hynny aeth Hesron i mewn at ferch Machir tad Gilead, a'i phriodi ac yntau'n drigain oed; hi oedd mam Segub.
22. Segub oedd tad Jair, a oedd yn berchen ar dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.
23. Fe gymerodd oddi ar Gesur ac Aram Hafoth-jair, a Chenath a'i phentrefi, sef trigain o ddinasoedd. Yr oedd y rhain i gyd yn perthyn i feibion Machir tad Gilead.