1 Corinthiaid 9:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Onid oes gennym hawl i fynd â gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni, fel y gwna'r apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Ceffas?

6. Neu ai myfi a Barnabas yn unig sydd heb yr hawl i beidio â gweithio i ennill ein bywoliaeth?

7. Pwy fyddai byth yn rhoi gwasanaeth milwr ar ei draul ei hun? Pwy sy'n plannu gwinllan heb fwyta o'r ffrwyth? Pwy sy'n bugeilio praidd heb yfed o'r llaeth?

8. Ai ar awdurdod dynol yr wyf yn dweud hyn? Onid yw'r Gyfraith hefyd yn ei ddweud?

1 Corinthiaid 9