1 Corinthiaid 5:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Ond yn awr yr wyf yn ysgrifennu i ddweud wrthych am beidio â chymysgu â neb a elwir yn gredadun os yw'n anfoesol yn rhywiol neu'n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu'n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed â bwyta gydag un felly.

12. Oherwydd beth sydd a wnelwyf fi â barnu'r rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

13. Duw fydd yn barnu'r rhai sydd oddi allan. Taflwch y dihiryn allan o'ch mysg.

1 Corinthiaid 5