1 Corinthiaid 16:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi.

18. Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly.

19. Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch. Y mae Acwila a Priscila, gyda'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ, yn eich cyfarch yn gynnes yn yr Arglwydd.

20. Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.

1 Corinthiaid 16